Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 30 Ebrill 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.01 - 12.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Jocelyn Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Mike Hedges AC Gwyn R Price AC Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Plant, Law Society Rhiannon Price, Law Society Liz Silversmith, Let Down in Wales Steve Clarke, Welsh Tenants Federation Beth Button, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) David Smith (Cynghorwr Arbenigol) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
1.3 Gwnaeth Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y sector rhentu preifat.
2 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas y Cyfreithwyr
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jane Plant, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr
· Rhiannon Price, aelod o'r Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr
· Cytunodd Cymdeithas y Cyfreithwyr i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar ddichonolrwydd ehangu'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru i ddatrys anghydfodau sy'n codi o dan y Bil, yn hytrach na dibynnu ar y llysoedd.
3 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3 - Let Down in Wales, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Tenantiaid Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Liz Silversmith, Let Down in Wales
· Steve Clark, Tenantiaid Cymru
· Beth Button, Llywydd, UCM Cymru
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod (trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau, ystyried yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru elfen 1, ac ystyried y dull o graffu ar y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru))
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig
5 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau 2 a 3
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau 2 a 3.
6 Trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat Ymarfer ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau a chytunodd i ymchwilio ymhellach i'r mater.
7 Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru Elfen 1: ystyried yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
8 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyried dull craffu’r Pwyllgor
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), yn amodol ar y Bil yn cael ei gyflwyno.